Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Mercher, 29 Mawrth 2017

Amser: 09.00 - 12.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3853


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

John Griffiths AC (Cadeirydd)

Gareth Bennett AC

Janet Finch-Saunders AC

David Melding AC (yn lle Janet Finch-Saunders AC)

Siân Gwenllian AC

Bethan Jenkins AC

Rhianon Passmore AC

Jenny Rathbone AC

Joyce Watson AC

Tystion:

Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Claire Bennett, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi, Cynllunio a Phartneriaethau Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru

Lisa James, Llywodraeth Cymru

Carl Sargeant AC

John Rees, Llywodraeth Cymru

Katie Wilson, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Christopher Warner (Clerc)

Naomi Stocks (Clerc)

Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc)

Chloe Davies (Dirprwy Glerc)

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)

</AI1>

<AI2>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

1.2.      Roedd David Melding AC yn dirprwyo ar ran Janet Finch-Saunders AC ar gyfer eitemau 3 a 6.

 

1.3.      Datganodd yr Aelodau a ganlyn fuddiannau perthnasol fel aelodau o undebau:

 

 

</AI2>

<AI3>

2       Craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – diwygio Llywodraeth Leol

2.1.    Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

·         Claire Bennett, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trawsnewid a Phartneriaethau Llywodraeth Leol

·         Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol

</AI3>

<AI4>

3       Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - Sesiwn dystiolaeth 1: Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

·         John G Rees, Rheolwr y Bil

·         Katie Wilson, Cyfreithiwr

 

2.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i:

·         Ddarparu’r ffigurau ar unrhyw gynnydd yn y stoc tai cymdeithasol mewn ardaloedd awdurdodau lleol lle y mae’r Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael wedi eu hatal dros dro o dan y Mesur Tai (Cymru) 2011;

·         Darparu nodyn ar y weithdrefn a’r meini prawf cymhwyster ar gyfer ceisiadau am ataliadau dros dro o dan Fesur Tai (Cymru) 2011;

·         Darparu drafft o’r ddogfen sy’n cynnwys gwybodaeth i denantiaid a darpar denantiaid sy’n ofynnol o dan adran 8 o’r Bil;

·         I egluro pwrpas a’r effaith a fwriadwyd ar gyfer Adran 2 ac Adran 4 o’r Bil.

</AI4>

<AI5>

4       Papurau i’w nodi

</AI5>

<AI6>

4.1   Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

4.1.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru).

</AI6>

<AI7>

4.2   Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch Bil yr Undebau Llafur (Cymru)

4.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch Bil yr Undebau Llafur (Cymru).

</AI7>

<AI8>

4.3   Gwybodaeth Ychwanegol gan y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 2 Chwefror 2017

4.3.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth Ychwanegol gan y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 2 Chwefror 2017

</AI8>

<AI9>

4.4   Gwybodaeth Ychwanegol gan Bartneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru

4.4.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Bartneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.

</AI9>

<AI10>

4.5   Adroddiad gan y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol: Adroddiad Naratif bob chwe mis ar Wasanaethau Plant

4.5.a Nododd y Pwyllgor yr adroddiad gan y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol: Adroddiad Naratif bob chwe mis ar Wasanaethau Plant.

</AI10>

<AI11>

4.6   Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith mewn cysylltiad â thlodi yng Nghymru

4.6.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith mewn cysylltiad â thlodi yng Nghymru.

</AI11>

<AI12>

4.7   Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn cysylltiad â thlodi yng Nghymru

4.7.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn cysylltiad â thlodi yng Nghymru.

</AI12>

<AI13>

4.8   Nodyn o drafodaethau’r grŵp ffocws mewn perthynas â Bil yr Undebau Llafur (Cymru)

4.8.a Nododd y Pwyllgor y nodyn o drafodaethau’r grŵp ffocws mewn cysylltiad â Bil yr Undebau Llafur (Cymru).

</AI13>

<AI14>

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

</AI14>

<AI15>

6       Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru): trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 3.

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 3 a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet am y materion a godwyd yn ystod y sesiwn.

</AI15>

<AI16>

7       Craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol - diwygio Llywodraeth Leol: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2.

</AI16>

<AI17>

8       Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - Trafod yr adroddiad drafft

8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chymeradwyodd yr adroddiad yn amodol ar rai mân newidiadau.

</AI17>

<AI18>

9       Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru - trafod yr adroddiad drafft

9.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chymeradwyodd yr adroddiad yn amodol ar rai mân newidiadau. 

</AI18>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>